"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Yr Iaith Gymraeg yn y llysoedd
Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Mae Adran 22 (1) o’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i Gymry Cymraeg siarad Cymraeg yn y llys.’ Mewn unrhyw achosion cyfreithiol yng Nghymru gellir siarad Cymraeg gan unrhyw barti, tyst neu berson arall sy’n dymuno’i defnyddio, yn ddarostyngedig mewn achosion mewn llys heblaw llys ynadon i’r cyfryw rybudd ymlaen llaw ag a fydd yn ofynnol yn ôl rheolau’r llys; a gwneir unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer cyfieithu yn unol â hyn’.
Er mwyn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd yng Nghymru mae Cyfarwyddiadau Ymarfer wedi eu gwneud ar gyfer Llys y Goron a’r Llysoedd sifil yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2005 gwnaeth Barnwyr Llywyddol Cylchdaith Cymru a Chaer Brotocol ar gyfer Rhestru Achosion lle defnyddir y Gymraeg.
Am wybodaeth am y Llysoedd yng Nghymru a Lloegr, ymwelwch â Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
Fel y daw dogfennau a chyfieithiadau Cymraeg i law, fe’u hychwanegwn at y wefan.
