Tudalen gymorth

Croeso i wefan barnwriaeth Cymru a Lloegr. Gobeithio y byddwch yn teimlo bod ein gwefan yn hawdd i’w defnyddio, ond os nad ydych, yna nod y dudalen hon yw eich helpu i ganfod eich ffordd o amgylch y wefan os ydych yn cael trafferthion.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae’r wefan wedi ei dylunio ychydig yn wahanol i’r arfer (er enghraifft, llywio ar yr ochr chwith). Fe welwch fand cul ar draws y sgrîn ar bob tudalen. Mae hwn yn cynnwys y prif hafanau llywio (er enghraifft “Am Farnwyr” neu “Ffeithiau Allweddol). Bydd y rhain yr un fath bob amser.

Mae’r rhan fwyaf o’r cyfarwyddiadau llywio ar gyfer y wefan mewn blychau gwybodaeth ar ochr dde’r sgrîn. Bydd yr wybodaeth sydd yn y rhan hon yn berthnasol i’r dudalen rydych arni ar y pryd. Byddwch bob amser yn gallu mynd yn ôl i ble bynnag y daethoch ohono drwy glicio ar y dewisiadau yn y blwch cyntaf ar ochr dde’r dudalen. Fel rheol, gelwir y ddolen gyswllt yn “gyflwyniad”. Mae’r dudalen hon yr un fath â’r hafan y cyfeirir ati yn y faner (fel y gwelir uchod).

Mae nifer o flychau gwybodaeth eraill ar ochr dde’r rhan fwyaf o’r tudalennau. Mae’r rhain yn cynnwys dolenni cyswllt cysylltiedig, ar gyfer gwybodaeth berthnasol mewn rhannau eraill o’r wefan a dolenni cyswllt allanol, ar gyfer gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill.

Mae blwch arall, ar bob tudalen, yn rhoi manylion am ddolenni cyswllt defnyddiol sy’n berthnasol i’r wefan yn ei chyfanrwydd, bysellau brys, a geirfa. Mae’r dewis olaf hwn yn diffinio llawer o dermau cyfreithiol – gadewch inni wybod os oes rhywbeth ar goll.
Os ydych eisiau mynd yn ôl i’r hafan, cliciwch ar “Barnwriaeth Cymru a Lloegr” yng nghornel chwith uchaf y dudalen – mae’n gweithredu fel botwm llywio “dychwelyd i’r hafan”.

Mae’r rhan fwyaf o’r adrannau’n cynnwys blwch beth sy’n newydd ar yr ochr dde sy’n cynnwys gwybodaeth berthnasol i’r adran benodol honno. Neu, cliciwch ar yr adran 'beth sy’n newydd' yn y blwch pinc yng nghornel dde uchaf pob tudalen.
Os nad yw’n amlwg ym mha un o’n penawdau y bydd yr wybodaeth sydd o ddiddordeb i chi, gallwch ddefnyddio’r map o’r wefan, neu beiriant chwilio’r wefan ei hun i helpu i’ch tywys i’r tudalennau mwyaf tebygol ar gyfer y pwnc rydych yn chwilio amdano.
Os ydych yn cael anawsterau go iawn, gallwch ddefnyddio’r botwm 'yn ôl' yn eich porwr i fynd yn ôl i’r dudalen flaenorol.

Prif gategorïau’r wefan

Mae’r wefan hon yn defnyddio’r penawdau isod ar gyfer y prif gategorïau, ac mae’r penawdau i gyd i’w gweld ar bob tudalen:

Ffeithiau Allweddol – mae’r rhan hon o’r wefan yn nodi ffeithiau allweddol am y farnwriaeth ac yn cynnwys gwybodaeth am y flwyddyn gyfreithiol, bywgraffiadau barnwrol a nifer o ddeiliaid swyddi barnwrol.

Am y farnwriaeth – mae’r rhan hon yn cynnwys ystod eang o wybodaeth am y farnwriaeth. Gallwch ddysgu mwy am rolau, cyfrifoldebau a phwerau gwahanol aelodau’r farnwriaeth; darllen am ddiwrnod ym mywyd barnwr; neu ddarganfod rhywfaint o hanes gwisg y llys. Ceir gwybodaeth hefyd am hanes y farnwriaeth; pwysigrwydd annibyniaeth farnwrol; a sut mae’r newidiadau a ddaeth i rym yn sgîl Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 yn effeithio ar y farnwriaeth.

Adnoddau dysgu – mae nifer o weithgareddau rhyngweithiol ar eich cyfer. Mae’r rhain yn cynnwys cwisiau, senarios achosion a gwybodaeth am achosion pwysig.

Cyhoeddiadau a’r cyfryngau – Mae’r Llywodraeth yn aml yn gofyn i farnwyr am eu barn wrth ymgynghori ynglŷn â chyfres newydd o gynigion. Er nad yw barnwyr yn ymwneud â gwleidyddiaeth, mae’n gwbl gyfreithlon iddynt fynegi eu barn ynglŷn ag effaith debygol deddfwriaeth neu bolisïau arfaethedig ar y llysoedd.

Dyfarniadau a chanllawiau – byddwch yn gallu gweld y dyfarniadau llys diweddaraf, yn ogystal â rhai o’r cyfarwyddiadau cyfreithiol a roddwyd gan farnwyr. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol hefyd am ddedfrydu, sy’n egluro sut mae barnwyr yn gwneud penderfyniadau penodol yn y maes cymhleth hwn.

Cynnwys tudalennau

Mae’r holl wybodaeth ffeithiol sydd ar y wefan wedi ei lleoli yn rhan gynnwys y dudalen – yn fyr, dyma’r rhan sydd ar yr ochr chwith, dan y brif faner.

Yn hafan pob un o’r prif benawdau, ceir dyfyniad, mewn testun coch, sy’n rhoi cipolwg ar yr hyn sydd yn y rhan honno o’r wefan. Yna ceir cyflwyniad mwy ffurfiol i’r dudalen honno, yn egluro cynnwys yr adran. O dan hynny, ceir darn o wybodaeth fel rheol, gyda darllenwch fwy … ar ei ddiwedd. Bydd clicio ar darllenwch fwy … yn mynd â chi at yr wybodaeth berthnasol am y darn hwnnw o wybodaeth. Mae’r darnau hyn o wybodaeth yn cyfateb i’r cyfarwyddiadau llywio yn y blwch ar y dde.

Hygyrchedd

Mae bysellau brys ar y wefan hon er mwyn eich helpu i fynd at y cynnwys. Mabwysiadwyd safon bysellau brys Llywodraeth y DU ac mae’n darparu llwybrau gwahanol i brif feysydd y safle.

Dyluniwyd y wefan er mwyn diwallu ystod eang o ofynion hygyrchedd a byddem yn falch o glywed gennych os oes gennych unrhyw anghenion penodol yn ymwneud â dod o hyd i wybodaeth. Yn wir, os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i’n helpu i wneud ein gwefan yn fwy defnyddiol neu’n haws i’w defnyddio byddem yn falch iawn o glywed gennych. Gallwch anfon unrhyw ymholiadau atom drwy e-bost.

Cymorth â ffeiliau PDF

Darperir rhai dogfennau fel ffeiliau PDF. Os nad oes gennych ddarllenwr PDF ar eich cyfrifiadur, gallwch lawrlwytho’r meddalwedd am ddim o’r wefan Adobe.

Mae’n bosib y byddai o fudd i bobl sydd ag anawsterau golwg edrych pa wasanaethau sydd ar gael i’w helpu i ddefnyddio dogfennau Acrobat: http://access.adobe.com.

Mae’n bosib, fodd bynnag, nad yw’r ffeiliau hyn yn gwbl gydnaws â meddalwedd darllenwyr sgrin neu anghenion eraill. Os oes arnoch angen fersiwn cwbl hygyrch, anfonwch e-bost atom.

FLASH Macromedia

Mae adran adnoddau dysgu’r wefan yn dibynnu ar ffeiliau FLASH Macromedia i wneud y gweithgareddau amrywiol yn rhyngweithiol. Os nad yw FLASH Macromedia wedi ei osod ar eich cyfrifiadur, gallwch lawrlwytho’r meddalwedd am ddim o wefan Macromedia.

Real Player / Windows Media

Er mwyn gweld y cyfweliad rhwng yr Arglwydd Brif Ustus a Marcel Berlins mae angen i ddefnyddwyr gael Real Player neu Windows Media. Mae’r naill a’r llall ar gael yn rhad ac am ddim.

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma