"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Geirfa
Bydd yr eirfa hon yn eich helpu i ddeall llawer o dermau, acronymau ac ymadroddion cyfreithiol cyffredin.A
Alibi – Amddiffyniad nad oedd rhywun a gyhuddwyd o drosedd yno ar y pryd ac na allai fod wedi cyflawni’r trosedd.
AMC – Yr Adran Materion Cyfansoddiadol. Mae’r Adran yn gyfrifol am redeg y llysoedd a gwella’r system gyfiawnder, hawliau dynol a chyfraith hawliau gwybodaeth, a chyfraith a pholisi ar redeg etholiadau a moderneiddio’r cyfansoddiad.
Apêl – Cais ffurfiol i uchel lys am gael newid dyfarniad neu benderfyniad llys.
Arglwydd Brif Ustus – Pennaeth barnwriaeth Cymru a Lloegr a Llywydd Llysoedd Cymru a Lloegr. Barnwr uchaf yr Alban yw Arglwydd Lywydd yr Alban, er nad yw deiliad y swydd hon yn gyfrifol am y farnwriaeth i gyd, ac mae gan Ogledd Iwerddon ei Harglwydd Brif Ustus ei hun.
Arglwydd Cyfraith – Teitl answyddogol yr Arglwyddi Apêl. Mae’r Arglwyddi Cyfraith wedi eu dyrchafu o’r Llys Apêl i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, y llys uchaf ar gyfer Cymru a Lloegr.
ASBO – Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Gorchmynion llys yw’r rhain sy’n gwahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol penodol. Mae ASBO’n parhau am o leiaf ddwy flynedd, a gall wahardd troseddwr rhag ymweld â mannau penodol, cymysgu â rhai pobl neu barhau â’r ymddygiad tramgwyddus. Er mai llys sy’n gwneud ASBO, gorchymyn sifil ydyw, yn hytrach na chosb droseddol – mae hyn yn golygu na fydd yn ymddangos ar gofnod troseddol unigolyn. Fodd bynnag, mae torri ASBO yn drosedd a allai arwain at gosb o ddirwy neu hyd at bum mlynedd mewn carchar.
B
BAILII – Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon, sy’n darparu mynediad di-dâl i ddeunydd cyfreithiol sylfaenol Prydain ac Iwerddon ar y rhyngrwyd, gan gynnwys amrywiaeth eang o ddyfarniadau llys.
Bar – Mae bargyfreithwyr yn cael eu "galw i’r Bar" pan fônt wedi gorffen eu hyfforddiant ac, o ganlyniad, mae ganddynt hawl wedyn i gynrychioli cleientiaid. Mae’r Bar hefyd yn derm torfol am bob bargyfreithiwr, sy’n cael eu cynrychioli gan Gyngor Cyffredinol y Bar.
Bargyfreithiwr – Ymarferydd cyfraith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw bargyfreithiwr. Mae’r enw’n dod o’r broses o gael eu galw at y Bar yn ystod eu hyfforddiant. Mae bargyfreithwyr yn cynrychioli unigolion mewn llys, ac yn rhoi cyngor cyfreithiol arbenigol iddynt. Rhaid i fargyfreithwyr gael eu cyfarwyddo (llogi) fel rheol drwy dwrnai, ond mae newid i’r rheolau yn 2004 yn golygu y gall aelodau o’r cyhoedd yn awr gysylltu â bargyfreithiwr yn uniongyrchol mewn rhai amgylchiadau.
Barnwr cylchdaith – Barnwr sydd fel rheol yn eistedd yn y llys sirol a/neu yn Llys y Goron.
Barnwr rhanbarth – Mae barnwyr rhanbarth, a oedd yn arfer cael eu hadnabod fel Cofrestryddion Llysoedd Sirol, yn eistedd yn y llysoedd sirol neu’r cofrestrfeydd dosbarth mewn rhanbarth penodol. Mae llawer o waith barnwyr rhanbarth yn cael ei wneud mewn siambrau, ac mae ganddynt y pŵer i roi achosion ar brawf mewn llys sirol o dan derfyn ariannol penodol a adolygir o bryd i’w gilydd. Gwrandewir achosion sydd uwchben y terfyn hwn fel rheol gan farnwr cylchdaith. Mae barnwyr dosbarth hefyd yn gweithredu fel cyflafareddwyr yn y llysoedd sirol, yn gwrando achosion priodasol ac yn delio â bron y cyfan o’r camau rhagarweiniol mewn achosion sifil a theulu ac adolygiadau cyn treial. Mae rhai hefyd yn penderfynu ynglŷn ag achosion sy’n ymwneud â phlant.
Barnwr rhanbarth (Ynadon) – Mae barnwyr rhanbarth, neu ynadon cyflog fel y gelwid hwy cyn 2000, yn aelodau llawn-amser o’r farnwriaeth ac yn delio gydag ystod eang o achosion sy’n ymddangos gerbron llysoedd ynadon – yn enwedig yr achosion troseddol hirach a chymhlethach ac achosion gofal sy’n ymwneud â phlant. Gallant eistedd gydag ynadon lleyg neu ar eu pennau eu hunain.
Barnwriaeth – Term torfol am y 43,000 o farnwyr, ynadon ac aelodau o dribiwnlysoedd sy’n delio gyda materion cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
Barnwrol – Yn ymwneud â’r farnwriaeth (gweler uchod).
Beiusrwydd - Bai.
Braint – Hawl parti i wrthod datgelu dogfen neu gyflwyno dogfen neu i wrthod ateb cwestiynau ar sail rhyw ddiddordeb arbennig sy’n cael ei gydnabod gan y gyfraith.
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid – Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid ac yn gweithio er mwyn atal plant a phobl ifanc dan 18 oed rhag troseddu ac aildroseddu, er mwyn sicrhau bod carchar yn lle diogel iddynt a rhoi sylw i’r hyn sy’n achosi eu hymddygiad troseddol.
C
CAFCASS – Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd. Mae CAFCASS yn gofalu am fuddiannau plant sy’n rhan o weithdrefnau mewn llysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr ac yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd i gynghori’r llysoedd ynglŷn â beth sydd er pennaf les plant mewn achosion teulu, boed hynny mewn achosion ysgaru a gwahanu, mabwysiadu, neu ofal plant a goruchwyliaeth.
Camwedd - Camwri sifil a gyflawnir yn erbyn rhywun ac y gellir gofyn am ddigollediad o’i herwydd drwy Lys sifil, ee anaf personol, gyrru’n esgeulus neu enllib.
CF – Gall bargyfreithwyr a thwrneiod sydd â digon o brofiad a gwybodaeth ymgeisio i fod yn Gwnsleriaid y Frenhines. Mae CF yn gwneud gwaith pwysig a chyfeirir atynt fel 'sidanwyr', enw sy’n deillio o’r gŵn llys du a wisgir. Bydd CF, wrth gwrs, yn cael eu galw’n Gwnsleriaid y Brenin os bydd brenin yn dod i’r orsedd.
Cofiadur – Penodir Cofiaduron, sydd â’r un pwerau bron iawn â barnwyr rhanbarth, gan Y Frenhines, ac mae’r penodiad yn para am bum mlynedd. Mae cofiaduron fel rheol yn eistedd am rhwng pedair a chwe wythnos y flwyddyn, ac yn treulio gweddill yr amser fel rheol mewn practis preifat fel bargyfreithwyr neu dwrneiod.
Comisiwn y Gyfraith – Corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd i adolygu ac argymell diwygiadau i gyfraith Cymru a Lloegr.
Cwnsel - Bargyfreithiwr.
Cyfraith achosion – Y corff o ddeddfau sy’n cael ei greu gan benderfyniadau barnwyr ynglŷn ag achosion unigol.
Cyfraith statudol – Cyfraith sydd wedi ei phasio gan Ddeddf Seneddol.
Cyfreithiwr – Term cyffredinol am rywun sy’n ymarfer y gyfraith, fel twrnai neu fargyfreithiwr.
Cyfryngu – Proses sy’n digwydd y tu allan i lys er mwyn datrys anghydfod.
Cynnal penderfyniad – Lle bo apêl yn erbyn penderfyniad barnwrol yn dod i ben drwy gadw’r penderfyniad gwreiddiol.
Cyrffiw – Gorchymyn cyfreithiol yn cyfyngu rhywun i’w gartref, weithiau am adegau penodol o’r diwrnod.
D
Datgeliad – System dair haen mewn achosion troseddol sy’n sicrhau bod modd i bob parti weld gwybodaeth hanfodol ar ddwy ochr y llys:
- Datgeliad sylfaenol yw dyletswydd yr erlynydd i ddatgelu deunydd i’r amddiffyniad sy’n tanseilio’r achos yn erbyn y cyhuddedig. Bydd angen datgeliad sylfaenol lle bo’r cyhuddedig yn wynebu treial mewn llys ynadon ac yn pledio’n ddieuog, neu lle bo’r achos yn cael ei drosglwyddo am dreial drwy reithgor;
- Mae datganiad yr amddiffyniad yn nodi natur gyffredinol yr amddiffyniad, gan nodi materion y mae’r cyhuddedig am eu codi â’r erlyniad a pham. Mae datganiad gan yr amddiffyniad yn orfodol ar gyfer person cyhuddedig sy’n wynebu treial drwy reithgor, ac yn ddewisol ar gyfer person cyhuddedig sy’n wynebu treial diannod;
- Mae datgeliad eilaidd yn digwydd cyn gynted ag y bo modd ar ôl derbyn datganiad yr amddiffyniad, ac yn rhoi manylion am unrhyw wybodaeth nad oedd wedi ei datgelu o’r blaen ac y byddai’n rhesymol disgwyl y byddai’n cynorthwyo amddiffyniad y cyhuddedig fel y nodir yn natganiad yr amddiffyniad.
Mewn achosion sifil, rhaid datgelu’r holl ddogfennau perthnasol oni bai eu bod yn cael eu rheoli gan fraint (gweler uchod).
Deddf – Cyfraith ysgrifenedig gwlad, sydd hefyd yn cael ei galw’n statud. Mae Deddf yn nodi rheolau cyfreithiol, ac mae fel rheol wedi ei phasio gan y ddau Dŷ Seneddol ar ffurf Mesur ac mae’r Goron wedi cytuno arni.
Deddf Diwygio Cyfansoddiadol – Mae’r Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2005, wedi diwygio swydd yr Arglwydd Ganghellor, sefydlu’r Arglwydd Brif Ustus fel pennaeth barnwriaeth Cymru a Lloegr a Llywydd Llysoedd Cymru a Lloegr, a chreu Goruchaf Llys y Deyrnas Unedig. Yn ychwanegol at hyn, gwnaeth y Ddeddf ddarpariaeth ar gyfer creu Comisiwn Penodiadau Barnwrol, Swyddfa Cwynion Barnwrol ac Ombwdsmon Penodiadau ac Ymddygiad Barnwrol.
Dedfryd o garchar – Lle cedwir troseddwr mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc am gyfnod penodol.
Dedfryd ohiriedig – Dedfryd o garchar, ond un na fydd yn arwain at gyfnod yn y ddalfa oni bai bod trosedd arall yn cael ei gyflawni o fewn cyfnod penodedig.
Diffynnydd - Person sy’n ymddangos gerbron llys gan ei fod yn cael ei siwio, yn sefyll treial neu’n ymddangos am ddedfryd.
Digollediad – Swm o arian a delir i wneud iawn am golled, difrod, caledi, anghyfleustra neu niwed personol a achosir gan rywun arall.
Dirmyg llys – Trosedd a all arwain at ddirwy a hyd yn oed at garchar o ganlyniad i ddiffyg parch neu ufudd-dod gan unigolion mewn llys barn. Rydych hefyd yn dirmygu’r llys os ydych yn anufuddhau i waharddeb neu orchymyn llys.
Disgybledd - Disgybledd yw rhan olaf yr hyfforddiant i fod yn fargyfreithiwr. Mae’n cymryd tua blwyddyn i’w gwblhau fel rheol, gyda’r flwyddyn yn cael ei rhannu’n ddau gyfnod o chwe mis a dreulir mewn set o siambrau.
Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod - Dulliau o ddatrys anghydfodau nad ydynt yn ymwneud â’r broses arferol o dreialon.
Dwysáu - Gwneud sefyllfa’n waeth. Er enghraifft, mae bwrglera wedi’i ddwysáu yng ngolwg y llys os yw’r bwrgler yn arfog, neu os yw’n anafu rhywun tra’n cyflawni’r trosedd.
Dyrchafiad – Symud i swydd uwch.
E
Eiriolwr - Twrnai, sy’n ymddangos mewn llys barn.
Erlyniad – Dechrau neu ddwyn achos troseddol yn erbyn rhywun.
G
Gohiriad – Gohirio achos cyfreithiol dros dro.
Goruchaf Lys – Crëwyd y Goruchaf Lys dan delerau Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, ac mae’n cwblhau’r gwaith o wahanu systemau cyfreithiol a barnwrol y DU. Ni fydd Barnwyr y Goruchaf Lys mwyach yn gallu eistedd na phleidleisio yn Nhŷ’r Arglwyddi. Yr hyn sydd braidd yn ddryslyd yw bod yr Uchel Lys a’r Llys Apêl wedi bod yn cael eu galw’n Oruchaf Lys hyd yn hyn – pan fydd y Goruchaf Lys newydd yn dod i fodolaeth byddant hwy yn y dyfodol yn cael eu hadwaen fel Uwch Lysoedd Cymru a Lloegr.
Gward y llys - Rhywun o dan 18 oed sy’n destun gorchymyn gwardiaeth. Mae’r gorchymyn yn sicrhau mai’r llys sy’n gyfrifol am ei gadwraeth, gyda’r gofal dydd i ddydd yn cael ei ddarparu gan unigolyn/unigolion neu awdurdod lleol. Cyhyd ag y bo’r person ifanc yn ward llys, rhaid i bob penderfyniad sy’n ymwneud â’i fagu gael ei gymeradwyo gan y llys, e.e. newid ysgol, neu driniaeth feddygol.
Gwardiaeth – Camau a gymerir gan yr Uchel Lys i wneud rhywun sydd dan 18 oed yn ward y llys.
Gwrandawiad – Achos a gynhelir gerbron llys.
Gwrandawiad cyn treial – Gwrandawiad llys byr lle mae barnwr yn ystyried pa mor barod yw pob parti mewn achos ar gyfer y treial ac yn pennu amserlen lle bo angen.
Gwrandawiadau ple a rheoli achosion – Gwrandawiad rhagarweiniol gerbron barnwr yn Llys y Goron, lle gall y cyhuddedig nodi a yw’n bwriadu pledio’n euog ai peidio a chael cyfle i ddadlau nad oes digon o dystiolaeth i’r achos fynd gerbron rheithgor. Rhoddir cyfarwyddiadau hefyd ar faterion fel pa dystiolaeth fydd yn cael ei derbyn.
L
Lliniaru – Dadleuon sy’n cael eu gwneud ar ran diffynnydd sydd wedi cyfaddef neu sydd wedi ei gael yn euog o drosedd, er mwyn esgusodi’r trosedd a gyflawnwyd neu ei esgusodi’n rhannol a cheisio lleihau’r ddedfryd.
Llys agored – Cynhelir y mwyafrif helaeth o’r gwrandawiadau yng Nghymru a Lloegr mewn llys agored, lle mae rhyddid i aelodau o’r cyhoedd ddod i mewn i’r llys a gwylio’r achos. Mae’n bosib y bydd rhai achosion sensitif, fel materion teulu, yn cael eu cynnal "in camera", sy’n golygu 'yn y siambr' neu yn breifat.
Llys sifil – Llys sy’n delio gyda materion sy’n ymwneud â hawliau preifat yn hytrach na throseddau yn erbyn y wladwriaeth.
Llys y Goron – Mae Llys y Goron yn delio gyda phob trosedd a draddodir i dreial gan lys ynadon. Gwrandewir achosion ar gyfer treial gerbron barnwr a rheithgor. Mae Llys y Goron hefyd yn gweithredu fel llys apêl ar gyfer achosion a wrandawyd ac yr ymdriniwyd â hwy gan ynadon.
Llys ynadon - Llys lle dechreuir achos troseddol gerbron ynadon heddwch, sy’n edrych ar y dystiolaeth/datganiadau a naill ai’n delio gyda’r achos eu hunain neu’n ei draddodi i Lys y Goron ar gyfer treial neu ddedfryd. Mae gan rai ynadon hefyd awdurdodaeth yn y llys ieuenctid, materion teulu (a elwir yn llys achosion teulu) ac mewn rhai achosion sifil.
M
Mainc – Mae barnwyr neu ynadon sy’n eistedd mewn llys yn cael eu hadwaen gyda’i gilydd fel "y Fainc".
Mechnïaeth – Rhyddhau diffynnydd o’r ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf mewn llys. Gall hyn fod yn amodol ar roi gwarant a/neu gydymffurfio ag amodau penodol, fel cyrffiw.
Mesur – Drafft o gyfraith arfaethedig sy’n cael ei chyflwyno i’r Senedd. Pan fydd y Senedd wedi cytuno arnynt a phan fyddant wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan y brenin neu’r frenhines, mae Mesurau’n dod yn gyfraith ac yn cael eu galw’n Ddeddfau.
Mesur Drafft – Fersiwn cynnar o Fesur arfaethedig cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Senedd.
Morthwyl – Morthwyl bychan a ddefnyddir i alw am sylw. Un o symbolau enwocaf y farnwriaeth, ond yn eironig, nid yw’n cael ei ddefnyddio bellach yn llysoedd Cymru a Lloegr.
Mr/Mrs Ustus – Y cyfarchiad cywir ar gyfer barnwr Uchel Lys.
P
Polisi – Mae’r Llywodraeth yn nodi ei pholisi ar ystod eang o faterion, er enghraifft drwy addewidion maniffesto ac mewn ymateb i ddigwyddiadau neu newidiadau yn y gymdeithas. Mewn llawer o achosion, ar ôl ymgynghori, byddant wedyn yn ystyried gwneud y polisi hwn yn gyfraith drwy gyflwyno Mesur gerbron y Senedd.
Profiant – Cydnabyddiaeth gyfreithiol o ddilysrwydd ewyllys.
R
Rhwymo – Rhoi ymrwymiad cyfreithiol i rywun, er enghraifft "rhwymo" rhywun i gadw’r heddwch. Gallai torri gorchymyn rhwymo arwain at gosb.
S
Siambrau – Mae dau ystyr i’r gair hwn: ystafell neu ystafell llys breifat na chaniateir i’r cyhoedd fynd iddi, lle gall barnwr gynnal rhai mathau o wrandawiadau, er enghraifft achosion teulu; neu swyddfeydd sy’n cael eu defnyddio gan fargyfreithiwr.
Swyddfa Gartref – Yr adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am faterion mewnol, gan gynnwys troseddau, yng Nghymru a Lloegr.
T
Treial diannod - Treial a gynhelir mewn llys ynadon.
Tribiwnlys – Mae tribiwnlysoedd yn rhan bwysig o’r system farnwrol, ond nid ydynt yn cael eu cynnal yn y llysoedd. Mae bron i 100 o wahanol dribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, pob un wedi ei neilltuo i faes penodol – o apeliadau pensiynau i faterion lloches a TAW. Mae’n system amrywiol iawn – mae’r tribiwnlys mwyaf yn gwrando dros 300,000 o achosion y flwyddyn, tra bo eraill byth bron yn eistedd. Mae rhai’n seiliedig ar strwythur llywyddol, tra bo eraill yn rhanbarthol; mae gan aelodau rhai paneli gymwysterau cyfreithiol, tra bo eraill heb gymwysterau o’r fath. Mae rhai tribiwnlysoedd yn ffurfiol iawn, a chynrychiolaeth gyfreithiol yn gyffredin ynddynt, ond mae llawer nad ydynt yn ffurfiol.
U
Uchel Lys – Llys sifil yn cynnwys tair adran: Mainc y Frenhines, sy’n delio ag anghydfodau sifil gan gynnwys torri contract, anafiadau personol, achosion masnachol ac adeiladu, enllib neu athrod; Teulu, sy’n ymwneud â materion priodasol ac achosion yn ymwneud â phlant neu oedolion na allant wneud penderfyniadau drostynt eu hunain; a Siawnsri, sy’n delio gyda materion eiddo gan gynnwys twyll a methdaliad.
Y
Y Goron – Sefydliad y frenhiniaeth, neu bŵer hanesyddol y frenhiniaeth, sy’n cael ei ymarfer fel rheol heddiw drwy lywodraeth a llysoedd. Y Goron sy’n dwyn pob achos troseddol gerbron y llys, drwy Wasanaeth Erlyn y Goron.
Y Swyddfa Cyfathrebu Barnwrol – Swyddfa sy’n bodoli er mwyn cynyddu hyder y cyhoedd yn y farnwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, sy’n cynghori aelodau o’r farnwriaeth ynglŷn â materion yn ymwneud â’r cyfryngau ac yn eu helpu i gyfathrebu â’i gilydd.
YH – Ynad Heddwch. Teitl swyddogol ynad.
Ynad – Aelodau o’r cyhoedd yw ynadon. Maent yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd i lywyddu mewn llysoedd ynadon. Nid oes angen iddynt gael cymwysterau cyfreithiol ffurfiol, ond maent yn cael hyfforddiant mewn gweithdrefnau llys.
Ynad lleyg - Enw arall am ynad.
