Cwestiynau Cyffredin (FAQ)

Ydy barnwyr yn gwneud deddfau? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin, a rhai camsyniadau, ynglŷn â’r farnwriaeth – yn y rhan hon o’r wefan rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o’r rhain.

Ydy barnwyr yn dal i ddefnyddio morthwyl?

Mae cartwnau a rhaglenni teledu yn aml iawn yn dangos barnwyr yn defnyddio morthwyl a lle bynnag y mae sôn am farnwyr gallwch fentro bod cyfeiriad at y morthwyl. Ond nid ydych yn debygol o weld morthwyl yn llysoedd Cymru a Lloegr – dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio yno.

Ydy barnwyr yn dal i wisgo’r capan du i ddedfrydu?

Nac ydyn. Roedd barnwyr yn rhoi’r capan du – sy’n deillio o benwisg llysoedd y Tuduriaid – ar eu pennau wrth ddedfrydu rhywun i farwolaeth. Ers i’r gosb eithaf gael ei diddymu’n barhaol yn 1969, nid oes angen iddynt wisgo’r capan. Mae Barnwyr yr Uchel Lys yn dal i gario’r capan du, ond dim ond ar adegau pan fônt yn gwisgo’r wisg seremonïol lawn.

Pam bod rhubanau coch yn cael eu defnyddio i glymu papurau yn y llys?

Ar un adeg defnyddid tâp coch neu 'binc' i glymu papurau swyddogol – yn wir, dyma darddiad y term "tâp coch" i ddisgrifio biwrocratiaeth eithafol. Mae’r tâp yn dal i gael ei ddefnyddio gan y proffesiwn cyfreithiol ar gyfer briffiau (y dogfennau sy’n amlinellu achos) gan ddinasyddion preifat. Defnyddir tâp gwyn ar gyfer briffiau gan y Goron.

Pam bod y twrneiod a swyddogion y llys yn ymgrymu o flaen y barnwr wrth iddynt ddod i mewn i’r ystafell?

Nid ymgrymu gerbron y barnwr y maent, ond gerbron Arfbais y Frenhines uwchben y barnwr, i ddangos parch i gyfiawnder y Frenhines.

Ydy’r barnwr yn gallu’ch clywed chi os ydych chi’n sibrwd yng nghefn y llys?

Mae hynny’n dibynnu pa mor dda yw ei glyw! Ond nid yw’n syniad da – os ydych yn tarfu ar y llys neu’n torri ar draws achos mae’n bosib i hynny gael ei ystyried yn ddirmyg llys, a gallai arwain at ddirwy neu hyd yn oed gyfnod o garchar.

Ydy barnwyr yn cael unrhyw fanteision arbennig, fel parcio am ddim?

Fel sy’n gyffredin mewn llawer o fusnesau, mae lleoedd parcio’n cael eu cadw ar gyfer barnwyr mewn rhai llysoedd, er nad ym mhob un – wedi’r cyfan, y llys yw eu man gwaith. Fodd bynnag, nid oes gan farnwyr hawl i ddefnyddio’u teitl neu eu proffesiwn i gael triniaeth arbennig neu 'rywbeth am ddim'.

Pam ein bod yn cyfeirio at farnwyr fel Eich Anrhydedd?

Nid yw pob un yn cael y teitl Eich Anrhydedd. Cyfeirir at farnwyr cylchdaith fel Eich Anrhydedd yn y llys, tra bo barnwyr rhanbarth yn syr neu fadam, a barnwr Uchel Lys yn F’Arglwydd neu F’Arglwyddes. Mae’r teitlau’n mynd yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd, ac yn helpu i nodi gwahanol fathau o farnwyr.

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma