"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Cwestiynau Cyffredin - Ynadon
Ydy barnwyr yn gwneud deddfau? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin, a rhai camsyniadau, ynglŷn â’r farnwriaeth – yn y rhan hon o’r wefan rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o’r rhain.
Pam bod gennym ynadon?
Gellir olrhain y rhan a chwaraeir gan ynadon lleyg yn system farnwrol Cymru a Lloegr yn ôl i’r flwyddyn 1195, pan gomisiynodd Rhisiart I (Rhisiart Lewgalon) farchogion fel ynadon i gadw Heddwch y Brenin a chynnal y gyfraith.
Ers hynny, mae ynadon wedi parhau i fod yn rhan hanfodol o’r system farnwrol – mae bron i ddengwaith gymaint o ynadon nag o farnwyr, ac maent yn delio â 95 y cant o’r holl dramgwyddau troseddol.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad?
Mae’n rhaid i ddeiliaid swyddi barnwrol cyflogedig fel barnwyr fod yn fargyfreithwyr neu dwrneiod â chymhwyster llawn am isafswm penodol o amser (ar hyn o bryd, wedi cymhwyso ers saith mlynedd).
Yn achos yr ynadaeth, nid oes angen cymwysterau academaidd, a rhoddir yr holl hyfforddiant angenrheidiol ar ôl penodi. Darperir hyfforddiant parhaus i farnwyr ac ynadon drwy gydol y cyfnod y maent yn gwasanaethu’r system gyfiawnder.
Pwy sy’n penderfynu os gallwch ddod yn ynad?
Mae’r Arglwydd Ganghellor yn penodi ynadon ar gyngor pwyllgorau cynghori lleol. Rhaid llenwi ffurflen gais, a chael geirda a chynhelir o leiaf un cyfweliad, dau fel rheol, cyn gwneud penderfyniad.
Yn dilyn Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 sefydlwyd trefniadau trosiannol ar gyfer penodi ynadon. Yn ystod y cyfnod interim hwn mae argymhellion ar gyfer penodi ynadon yn dal i gael eu gwneud gan bwyllgorau cynghori lleol. Trosglwyddir y rhain wedyn i’r Arglwydd Brif Ustus i gael eu cymeradwyo, cyn cael eu cyflwyno i’r Arglwydd Ganghellor i wneud y penodiad.
A yw’r ynadaeth yn adlewyrchu’r gymuned?
Daw ynadon o gefndiroedd a galwedigaethau amrywiol iawn. Ers blynyddoedd lawer mae nifer y merched a’r dynion sy’n gwasanaethu fel ynadon wedi bod yn bur gyfartal. Yn dilyn cynlluniau penodol i annog aelodau o gymunedau ethnig i ymgeisio i fod yn ynadon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tua 8.5 y cant o’r ynadon bellach yn dod o leiafrifoedd ethnig – dim ond ychydig yn llai na chyfran y bobl o leiafrifoedd ethnig yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’n bwysig bod y fainc ynadon leol yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Ar hyn o bryd mae angen mwy o bobl ifanc er mwyn cael gwell cydbwysedd ar feinciau.
Faint o arian mae ynadon yn ei gael?
Dim. Mae ynadon yn rhoi eu hamser yn wirfoddol ar gyfer y dasg hanfodol o weinyddu cyfiawnder. Mae llawer o gyflogwyr yn caniatáu amser i ffwrdd â thâl ond os bydd ynad yn colli arian neu os yw’n hunangyflogedig, gall hawlio lwfans colled ar raddfa benodedig. Gellir hawlio lwfans teithio a chynhaliaeth hefyd.
Oes rhaid i ynadon wisgo dillad arbennig i eistedd yn y llys?
Nac oes. Mewn gwirionedd, ni ddylai ynadon wisgo unrhyw beth sy’n lleihau urddas eu swydd, sy’n tynnu sylw atynt hwy’n bersonol neu sy’n dangos eu bod yn aelod o sefydliad neu glwb arbennig – mae hyn yn osgoi unrhyw dybiaeth o ffafriaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sydd gerbron y llys. Ceir eithriad ar gyfer mathau o wisgoedd y gofynnir amdanynt gan grefydd benodol neu gefndir ethnig.
Beth sy’n digwydd pan fo ynad yn torri’r gyfraith?
Mae ynadon yn ddarostyngedig i’r gyfraith fel pawb arall, a rhaid iddynt gadw urddas, statws ac enw da’r ynadaeth bob amser. Gallai’r rhai hynny y canfyddir eu bod wedi dwyn anfri ar yr ynadaeth – er enghraifft, drwy dorri’r gyfraith – wynebu camau disgyblu.
Sut ydych chi’n gwybod os yw achos yn cael ei gynnal mewn llys ynadon neu lys y goron?
Mae pob achos troseddol yn dechrau mewn llys ynadon neu lys ieuenctid. Bydd y mwyafrif helaeth yn aros yno, ar yr amod nad yw’r trosedd yn cael ei ystyried yn un mor ddifrifol fel mai dim ond llys y goron all ddelio gydag ef.
Gall llys ynadon roi dirwyon, rhyddhad amodol, dedfrydau cymunedol a chyfnodau o garchar.
Rhennir troseddau’n dri chategori, sy’n pennu ym mhle yr ymdrinnir â hwy:
- Troseddau ynadol – lle nad oes gan y diffynnydd hawl i dreial gerbron rheithgor a lle mae’n rhaid i ynadon ddelio gydag ef. Mae’r rhain yn cynnwys cyhuddiadau moduro a mân ymosodiadau;
- Troseddau neillffordd – fel dwyn, trafod nwyddau wedi’u dwyn ac ymosodiadau mwy difrifol. Cynhelir gweithdrefnau er mwyn penderfynu ym mhle y cynhelir yr achos. Gall y diffynnydd gael ei roi ar brawf gerbron ynadon neu gall ofyn am dreial â rheithgor yn llys y goron;
- Troseddau ditiol yn unig – Mae’r rhain yn cynnwys llofruddiaeth, dynladdiad, trais rhywiol ac ysbeiliad, a rhaid i farnwr ymdrin â hwy yn llys y goron.
Mae ynadon hefyd yn penderfynu ynglŷn â rhai materion sifil, gan gynnwys gwaith teulu a materion llywodraeth leol fel peidio â thalu’r dreth gyngor.
Pam bod ynadon yn eistedd fel panel o dri?
Mae ynadon fel rheol yn eistedd fel 'mainc' o dri ynad, gan gynnwys un sydd wedi ei hyfforddi i gymryd y gadair; cyfeirir at y ddau arall fel 'asgellwyr'. Er bod y cadeirydd yn siarad ar ran y fainc, mae gan bob un o’r tri ynad gyfrifoldeb cyfartal wrth wneud penderfyniadau. Lle bynnag y bo modd, dylai mainc fod yn gymysg o ran rhyw, ethnigrwydd, galwedigaeth, profiad ynadol ac ati fel bod gan y fainc gynrychiolaeth mor eang ag sy’n bosib wrth ddelio gydag achosion. Bydd ynadon bob amser yn gallu cael cyngor ar y gyfraith a’r gweithdrefnau cyfreithiol gan gynghorydd cyfreithiol â chymhwyster cyfreithiol sy’n eistedd yn y llys.
Sut maent yn penderfynu faint o ddirwy i’w rhoi ichi fel cosb?
Mae isafswm ac uchafswm taliadau cyfreithiol swyddogol ar gyfer pob trosedd. Mae’r ddirwy y gellid ei rhoi i droseddwr o fewn y rhain yn dibynnu ar ei amgylchiadau unigol a’i allu i dalu.
Beth sy’n digwydd i bobl sydd ddim yn talu eu dirwy?
Os ydych ar ei hôl hi â’ch taliadau ac os nad ydych yn gwneud unrhyw drefniadau i dalu, gall y llys hefyd wneud y canlynol:
- Defnyddio beilïaid preifat i atafaelu eich eiddo;
- Tynnu arian o’ch cyflog neu’ch budd-daliadau;
- Yn niffyg popeth arall, gallai’r llys orchymyn eich bod yn cael eich anfon i garchar. Rhaid cael gwrandawiad cyn i hyn ddigwydd.
Pam bod llysoedd gwahanol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed?
Mae llysoedd ieuenctid yn rhan o’r llys ynadon, ac maent yn delio gyda phobl ifanc 17 oed ac iau. Llywyddir llysoedd ieuenctid gan o leiaf ddau ynad, sydd â gwybodaeth arbennig a phrofiad o faterion cyfiawnder ieuenctid. Rhaid i bobl ifanc dan 16 oed gael rhiant neu warcheidwad neu weithiwr cymdeithasol gyda hwy, ac mae’r iaith a ddefnyddir yn debygol o fod yn symlach ac yn haws i’w deall.
Pam bod ynadon weithiau’n cael eu galw’n 'beaks'?
Mae’r term 'beak' wedi bod yn cael ei ddefnyddio am farnwr neu ynad ers canrifoedd, ond mae sawl damcaniaeth ynglŷn â’i darddiad.
Un ddamcaniaeth yw bod y term yn dod o hen air Saesneg, ‘beag’, sy’n golygu cadwyn a wisgid fel arwydd o swydd.
Credir hefyd y gallai’r gair fod wedi esblygu o ‘harman beck’, a oedd o ganol yr 16eg ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif yn golygu cwnstabl, bedel neu swyddog plwyf.
