"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Cwestiynau Cyffredin - Penodiadau Barnwrol
Ydy barnwyr yn gwneud deddfau? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin, a rhai camsyniadau, ynglŷn â’r farnwriaeth – yn y rhan hon o’r wefan rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o’r rhain.
Oes rhaid ichi fod dros ryw oed arbennig i fod yn farnwr?
Nac oes, ond mae angen ichi fod wedi cymhwyso fel bargyfreithiwr neu dwrnai ers nifer penodol o flynyddoedd.
Fodd bynnag, mae’n werth nodi nad oes angen unrhyw gymhwyster cyfreithiol i ddod yn ynad. Mae bron i 30,000 o ynadon yng Nghymru a Lloegr, pob un ohonynt yn aelodau di-dâl o’u cymuned leol. Gall unrhyw un sydd rhwng 18 a 65 oed wneud cais i fod yn ynad. Maent yn ymddeol yn 70 oed.
Oes rhaid ichi fod wedi bod mewn prifysgol i fod yn farnwr?
Ar hyn o bryd, er mwyn cael eich penodi i swydd farnwrol gyflogedig mae angen ichi fod yn fargyfreithiwr neu dwrnai â chymhwyster llawn am gyfnod penodol (ar hyn o bryd, wedi cymhwyso ers o leiaf saith mlynedd), gan ddibynnu ar y swydd dan sylw. Yn aml iawn bydd bargyfreithwyr a thwrneiod wedi dilyn gradd yn y gyfraith mewn prifysgol, ond mae’n bosib i’r rhai hynny sydd heb radd yn y gyfraith 'drosi' i gwrs yn y gyfraith er mwyn ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol.
Nid yw profiad o ddadlau mewn llys yn hanfodol ar gyfer penodi i swydd farnwrol – mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu gwneud deddfwriaeth er mwyn caniatáu i asiantau patentau cofrestredig, atwrneiod nodau masnach a Chymrodorion o Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol sydd â’r nifer gofynnol o flynyddoedd o brofiad ymgeisio am rai penodiadau.
Yn achos yr ynadaeth, nid yw’n gwneud gwahaniaeth pa un a ydych wedi mynychu prifysgol ai peidio.
Pam ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r barnwyr yn ddynion gwyn hŷn?
Mae’r Arglwydd Brif Ustus yn awyddus iawn i weld y farnwriaeth yn adlewyrchu’r gymdeithas y mae’n ei gwasanaethu, ond mae nifer o ffactorau sy’n effeithio ar gyflawni’r nod hwn. Efallai mai un o’r ffactorau mwyaf yw mai dim ond o’r casgliad o dwrneiod â chymhwyster cyfreithiol sy’n gymwys i ymgeisio y gellir dewis y farnwriaeth gyflogedig. Wrth i’r casgliad hwn ddod yn fwy amrywiol, bydd y farnwriaeth hefyd yn dod yn fwy amrywiol.
Mae cynnydd wedi ei wneud yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae rhagor o waith i’w wneud eto. Mae rhai o’r camau sydd wedi eu cymryd yn barod yn cynnwys penodi dau farnwr sy’n gweithio’n rhan-amser, gan gydnabod bod ganddynt ymrwymiadau gofal plant. Ceir hefyd gynlluniau mentora amrywiol gyda’r bwriad o gynyddu ymwybyddiaeth o waith barnwyr ymhlith twrneiod o leiafrifoedd ethnig.
Mae’r ynadaeth hefyd wedi gweithio’n galed er mwyn dod yn fwy cynrychioladol o’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Yn wir, mae tua 8.5 y cant o’r ynadon bellach yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig – dim ond ychydig yn llai na chyfran y bobl o leiafrifoedd ethnig sydd yn y boblogaeth gyffredinol. Mae rhaniad gweddol gyfartal hefyd rhwng nifer yr ynadon gwrywaidd a benywaidd sy’n cael eu penodi.
Pwy sy’n dewis/cyflogi barnwyr?
Lansiwyd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar 3 Ebrill 2006, dan delerau Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005.
Bydd y Comisiwn yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ddewis pobl i’w penodi’n ddeiliaid swyddi barnwrol, â rhai eithriadau:
- Bydd yr Arglwydd Ganghellor yn cadw cyfrifoldeb dros dro am unrhyw benodiadau a allai godi er mwyn llenwi unrhyw swyddi gweigion ymhlith Penaethiaid Adrannol ac aelodau o’r Llys Apêl hyd 1 Hydref, 2006. Bydd hyn yn rhoi amser i’r Comisiwn newydd sefydlu’i broses addas ei hun;
- Am gyfnod cyfyngedig bydd yr Arglwydd Ganghellor yn parhau i gynghori’r Frenhines ynglŷn â phenodiadau i swyddi gwag yn yr Uchel Lys. Bydd y trefniant hwn yn parhau hyd nes y bydd y rhestr o gystadleuaeth gyntaf y Comisiwn ar gyfer yr Uchel Lys ar gael, ddim hwyrach nag Ebrill 2007; ac
- Am gyfnod cyfyngedig, bydd yr Arglwydd Ganghellor yn cadw cyfrifoldeb am y cystadlaethau hynny a ddechreuwyd gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol cyn Ebrill 2006 ac a fydd, erbyn Ebrill 2006, wedi gwneud cynnydd sylweddol. Dylai’r cystadlaethau hyn fod wedi eu cwblhau erbyn Gorffennaf 2006.
Mae ynadon ar hyn o bryd yn mynd drwy broses ddethol sy’n cynnwys ffurflenni cais a chyfweliad. Gwneir hyn yn lleol. Gwneir argymhellion wedyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol a’r Arglwydd Brif Ustus. Ni fydd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb am gynghori ynglŷn â phenodi ynadon hyd nes y bo’n barod i wneud hynny.
