"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Cwestiynau Cyffredin - Rôl Barnwyr
Ydy barnwyr yn gwneud deddfau? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin, a rhai camsyniadau, ynglŷn â’r farnwriaeth – yn y rhan hon o’r wefan rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o’r rhain.
Pam bod angen barnwyr?
Gall unrhyw un edrych ar dystiolaeth achos a gwneud ei gasgliadau ei hun – dyna sail ein system rheithgor. Rôl barnwr yw defnyddio’i wybodaeth arbenigol a’i brofiad o’r gyfraith er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu cynnal a dyfarniadau’n cael eu gwneud yn unol â’r gyfraith, yna rhoi dyfarniad neu ddedfryd sy’n ystyried yr holl ffactorau hyn. Mae annibyniaeth y farnwriaeth hefyd yn un o gonglfeini’n system ddemocrataidd, ac yn gwarchod rhyddid a hawliau dinasyddion – mae pob barnwr yn rhydd o ymyrraeth wleidyddol, ac yn crynhoi achos ar sail asesiad diduedd o’r dystiolaeth.
Ydy barnwyr yn gwneud deddfau?
Ddim yn union. Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg, roedd system gyfreithiol y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar benderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud gan farnwyr a oedd yn penderfynu ynglŷn ag achosion unigol.
Heddiw, nid gwneud deddfau yw rôl barnwr, ond cynnal a chymhwyso’r deddfau sy’n cael eu gwneud gan y Senedd. Rhaid i’r deddfau gael eu dehongli a’u cymhwyso gan y barnwyr i wahanol achosion. Wrth benderfynu ynglŷn ag achos, rhaid i farnwr ddilyn y cynsail a osodwyd gan lys uwch mewn sefyllfa â ffeithiau tebyg – mae hyn yn helpu unrhyw un sy’n ymwneud ag achos, gan eu bod yn gwybod y bydd achosion yn cael eu trin yn yr un modd, yn hytrach nag ar hap. Mae hefyd yn golygu bod y gyfraith yn hyblyg ac y gall ymateb i amgylchiadau sy’n newid. O ganlyniad i’r broses hon, a elwir yn system gynsail, mae corff sylweddol o gyfraith achosion, neu "gyfraith gwlad", wedi datblygu ac mae’n ategu’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud gan y Senedd.
Ydy’r barnwr ar ochr yr heddlu?
Nac ydy. Nid yw barnwr ar ochr neb; dehongli’r gyfraith yw ei waith ef a hynny heb ochri â neb a heb unrhyw ragfarn.
Ydy barnwyr yn dewis yr achosion y maent yn mynd i’w barnu neu a ydynt yno ar hap?
Nid ydynt yn dewis eu hachosion – ond nid ydynt yno ar hap ychwaith.
Mae gwahanol lefelau o lysoedd - o ranbarth i apêl – ac mae gwahanol fathau o farnwyr yn eistedd ynddynt. Mae rhywfaint o arbenigo hefyd: mae barnwyr cylchdaith, er enghraifft, wedi eu hawdurdodi i lywyddu mewn achosion difrifol iawn, gan gynnwys trais rhywiol, llofruddiaeth neu dwyll.
Bydd barnwyr preswyl pob canolfan lysoedd a barnwyr llywyddol yn dyrannu achosion i farnwyr cymwysedig ar sail rota, â chymorth swyddogion rhestru sy’n gwneud yn siŵr bod y barnwyr amrywiol ar gael.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn adran Rolau yn y Llys y wefan hon
