"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Cwestiynau Cyffredin - Barnwyr a'r Cyfansoddiad
Ydy barnwyr yn creu cyfreithiau? Beth ydy'r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gwn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin ac ambell gamargraff ynghylch y farnwriaeth - yn yr adran hon o'r wefan, rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o'r rhain.
Pwy yw’r barnwr uchaf yng Nghymru a Lloegr a pham?
Ar 3 Ebrill, 2006, daeth yr Arglwydd Brif Ustus – ar hyn o bryd Arglwydd Phillips o Worth Matravers – yn Llywydd Llysoedd Cymru a Lloegr ac yn farnwr uchaf y farnwriaeth. Mae'n gyfrifol am ddarparu hyfforddiant a cyfarwyddyd ac am neilltuo barnwyr i achosion penodol. Mae hefyd yn cyfleu barn y farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr wrth y Senedd a’r gweinidogion.
Beth yw annibyniaeth farnwrol?
Mae annibyniaeth farnwrol yn un o egwyddorion allweddol ein cyfansoddiad. Mae’n golygu bod barnwyr yn penderfynu ar achosion yn ôl eu crebwyll eu hunain, yn rhydd rhag dylanwad allanol heb fod yn ddarostyngedig i farn na rheolaeth y Llywodraeth. Ym mhob achos, rhaid i farnwr weinyddu cyfiawnder yn unol â’r gyfraith ac yn unol ag amgylchiadau’r achos, boed ei b/phenderfyniadau’n boblogaidd ai peidio.
Mae annibyniaeth farnwrol hefyd yn golygu annibyniaeth barnwyr oddi ar ei gilydd. Gall barnwyr geisio cyngor gan eu cyd-farnwyr a bydd yn ystyried safbwyntiau a fynegir gan farnwyr eraill mewn achosion eraill, a rhaid iddynt roi sylw i ddyfarniadau a roddir gan lysoedd uwch sy'n eu rhwymo. Ond nid oes gan yr un barnwr, pa mor uchel bynnag y bo, yr hawl i ddweud wrth farnwr arall sut mae defnyddio’i g/chrebwyll mewn achosion unigol.
Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma
