Cwestiynau Cyffredin - Gwisg llys

Ydy barnwyr yn gwneud deddfau? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin, a rhai camsyniadau, ynglŷn â’r farnwriaeth – yn y rhan hon o’r wefan rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o’r rhain.

Pam wnaeth barnwyr ddechrau gwisgo perwig?

Mae’r perwigiau sy’n cael eu gwisgo gan farnwyr yn deillio o’r wisg ffasiynol hanfodol ar un adeg ar gyfer boneddigion. Er nad oeddent mor ffasiynol ymhlith y cyhoedd erbyn yr 17eg ganrif, daliodd barnwyr, meddygon, milwyr a chlerigwyr i’w gwisgo hyd y 19eg ganrif.

Heddiw, dim ond y proffesiynau cyfreithiol sy’n gwisgo perwigiau - ond nid yw hynny’n golygu nad ydynt wedi newid. Dim ond mewn achlysuron seremonïol y mae barnwyr yn gwisgo’r berwig draddodiadol â gwaelod llawn heddiw, ac mae steil llawer byrrach wedi ei mabwysiadu ar gyfer eisteddiadau llys arferol.

Ond nid yw pob barnwr yn gwisgo perwig. Nid ydynt yn cael eu gwisgo mewn llysoedd ynadon, mewn tribiwnlysoedd, nac mewn rhai achosion sy’n ymwneud â phlant.

Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn?

Nac ydy. Bydd ynadon ac aelodau o dribiwnlysoedd, a barnwyr rhanbarth nad ydynt yn eistedd mewn llys agored, yn gwisgo dillad arferol, ynghyd â’r Arglwyddi Cyfraith. Mae gan farnwyr Cylchdaith, barnwyr yr Uchel Lys a Phenaethiaid Adrannol a’r Llys Apêl i gyd eu mathau arbennig eu hunain o wisgoedd, gan gynnwys gynau o liwiau gwahanol. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wisg farnwrol, ewch i adran Gwisg llys y wefan hon.

Ydy’r perwigiau wedi eu gwneud o wallt go iawn?

Nid â gwallt pobl y maent yn cael eu gwneud, ond â blew ceffyl.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn adran Gwisg llys y wefan hon.

 

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma