Cwestiynau Cyffredin - Ymddygiad

Ydy barnwyr yn gwneud deddfau? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng barnwr ac ynad? Ydy pob barnwr yn gwisgo gŵn? Mae llawer o gwestiynau cyffredin, a rhai camsyniadau, ynglŷn â’r farnwriaeth – yn y rhan hon o’r wefan rydym yn cynnig atebion a gwybodaeth am lawer o’r rhain.

Ydy hi’n bosib cael barnwr yn euog o drosedd?

Ydy. Mae barnwyr yn ddarostyngedig i’r gyfraith fel pawb arall.

Ydy hi’n bosib i farnwr wrando achos sy’n ymwneud â’i ffrind?

Nac ydy. Un o gonglfeini’r system gyfreithiol yw bod barnwyr yn ddiduedd – mae eu llw hyd yn oed yn cynnwys yr addewid hwn: "gwnaf iawn i bob math o bobl yn ôl deddfau ac arferion y Deyrnas hon, heb ofn na ffafr, hoffter na drwgdeimlad."

Mae’r rhesymau a allai arwain barnwr i esgusodi ei hun rhag barnu achos yn cynnwys:

  • Cyfeillgarwch neu ddrwgdeimlad tuag at un o’r partïon anghyfreithiol yn yr achos (er nad yw eu hadnabod yn unig yn cyfri fel rhagfarn)
  • Budd ariannol
  • Cysylltiad teuluol ag unrhyw un sy’n ymwneud â’r achos.

Ydy hi’n bosib i farnwr ddal swydd arall yr un pryd?

Ni chaniateir i farnwyr cyflogedig, neu lawn-amser dderbyn arian o unrhyw fath arall o waith cyflogedig, ac eithrio breindaliadau a enillir fel awdur. Bydd barnwyr sy’n derbyn ffi – fel cofiaduron, dirprwy farnwyr rhanbarth, aelodau o dribiwnlysoedd a dirprwy farnwyr yr Uchel Lys – yn dal i weithio yn eu proffesiynau pan nad ydynt yn eistedd fel barnwyr.

Mae ynadon yn aelodau o’r gymuned leol a chan nad ydynt yn derbyn tâl am eu gwaith mae’n naturiol iddynt barhau ag unrhyw swydd sydd ganddynt o ddydd i ddydd. Anogir cyflogwyr i gefnogi ynadon drwy ganiatáu amser ymaith o’r gwaith er mwyn iddynt allu mynychu eisteddiadau.

Ydy hi’n bosib i farnwyr fod yn berchen ar fusnesau / cyfranddaliadau?

Gall barnwyr gael cyfranddaliadau ond ni ddylai barnwyr cyflogedig ddal swydd cyfarwyddwr masnachol am elw.

Gall rhai deiliaid swyddi barnwrol sy’n derbyn ffi (rhan-amser) fod yn berchen ar fusnes cyfan neu ran ohono, er enghraifft, twrnai sydd â’i bractis ei hun. Nid yw ynadon yn derbyn tâl ac maent yn dod o gefndiroedd amrywiol – gan gynnwys gwŷr a gwragedd busnes.

Ydy hi’n bosib i farnwr berthyn i blaid wleidyddol / gymryd rhan mewn etholiad seneddol?

Rhaid i farnwr roi’r gorau i unrhyw fath o weithgaredd gwleidyddol a thorri pob cysylltiad â phlaid wleidyddol ar ôl iddo gael ei benodi. Fodd bynnag, mae ganddynt hawl i bleidleisio.

Oes yna rai barnwyr sy’n seiri rhyddion?

Mae’n anorfod y bydd rhai barnwyr yn perthyn i’r Seiri Rhyddion. Fodd bynnag, mae’r llw a dyngir gan farnwyr pan gânt eu penodi - "gwnaf iawn i bob math o bobl yn ôl deddfau ac arferion y Deyrnas hon, heb ofn na ffafr, hoffter na drwgdeimlad" yn sicrhau bod y barnwr yn cydnabod yn agored ei fod ef neu hi yn bennaf atebol i’r gyfraith y mae’n rhaid iddo ef neu hi ei gweinyddu. Ni fyddai aelodaeth o’r Seiri Rhyddion yn cael unrhyw effaith o gwbl ar ganlyniad achosion.

Er 1998 gofynnir hefyd i unrhyw un sy’n cael cynnig penodiad barnwrol cyflogedig llawn neu ran-amser am y tro cyntaf, fel un o’r amodau penodi, a yw ef neu hi’n perthyn i’r Seiri Rhyddion ac, os nad yw, gofynnir iddo ef neu hi hysbysu’r Arglwydd Ganghellor os bydd ef neu hi’n ymuno â hwy yn ddiweddarach.

Ydy hi’n bosib i farnwr gael ei ddyrchafu / ei israddio / ei ddiswyddo?

Mae’n bosib i farnwyr gael eu 'dyrchafu' i lysoedd uwch. Mae’n debyg y bydd barnwr sy’n eistedd yn yr Uchel Lys neu yn Nhŷ’r Arglwyddi wedi dechrau ei yrfa fel twrnai neu fargyfreithiwr, ac yna wedi dod yn gofiadur (barnwr yn derbyn ffi sy’n dal i weithio yn y proffesiwn o’i ddewis am rywfaint o amser o leiaf). Gallant wedyn wneud cais i gael bod yn aelod cyflogedig, neu lawn-amser, o’r farnwriaeth mewn nifer o awdurdodaethau. Ambell waith, bydd barnwyr yn cael eu dyrchafu drwy’r llysoedd, ond mae hefyd yn bosib i fargyfreithiwr neu dwrnai sydd wedi dal swydd farnwrol â ffi, neu swydd ran-amser, ymgeisio am gael eistedd yn yr Uchel Lys yn syth. Mae bron yn sicr y bydd y barnwyr hŷn wedi eistedd ar lefel Uchel Lys cyn cael eu dyrchafu.

Mae modd i farnwyr gael eu diswyddo hefyd. Dim ond y Frenhines sydd â’r hawl i ddiswyddo’r barnwyr hŷn – Penaethiaid Adrannol, Arglwyddi Cyfraith, Arglwyddi Ustusiaid Apêl a barnwyr yr Uchel Lys – a hynny yn dilyn anerchiad gan y ddau Dŷ Seneddol, er nad yw hyn erioed wedi digwydd.

Gall deiliaid swyddi barnwrol eraill gael eu diswyddo gan yr Arglwydd Brif Ustus am analluogrwydd neu gamymddygiad. Mae hyn yn anghyffredin iawn, ac unwaith yn unig y bu’n rhaid diswyddo barnwr llawn-amser, a hynny yn 1983, pan gafodd barnwr cylchdaith ei ddiswyddo ar ôl pledio’n euog i sawl cyhuddiad o smyglo.

Mae’n bosib na fydd contractau deiliaid swyddi sy’n derbyn ffi, neu sy’n gweithio’n rhan-amser, ac sydd fel arfer yn cael eu penodi am o leiaf bum mlynedd, yn cael eu hadnewyddu am y rhesymau a ganlyn: camymddygiad; analluogrwydd; methiant parhaus i gydymffurfio â gofynion eistedd (heb reswm da); peidio â chydymffurfio â gofynion hyfforddiant; methiant parhaus i gadw at y safonau y mae’n rhesymol eu disgwyl gan ddeiliad swydd o’r fath; rhan o leihad mewn niferoedd o ganlyniad i newidiadau mewn gofynion gweithredol; a rhan o newid strwythurol er mwyn gallu recriwtio aelodau newydd.

Sut alla i gwyno am farnwr neu ddyfarniad?

Fel rheol bydd gan y rhai hynny nad ydynt yn ennill eu hachos hawl i apelio. Mae trefn gwyno ar gael ar gyfer y rhai hynny sy’n anfodlon â’r ffordd yr ymdriniwyd â’u hachos gan y barnwr, neu’r profiad cyffredinol o ymddangos gerbron llys. Mwy o wybodaeth am Gwynion ac Apeliadau.

Ydy hi’n bosib i farnwyr sydd wedi cael ysgariad wrando achosion teulu?

Ydy. Disgwylir i farnwyr roi unrhyw deimladau personol o’r neilltu wrth wrando achos.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn adran Ymddygiad ac apeliadau'r wefan hon.


Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma