*

"Am ganrifoedd, alltudiwyd yr iaith Gymraeg o'r Llysoedd Barn a bu'n frwydyr hir i ennill yr hawl i siarad Cymraeg yn y llys. Heddiw, mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob llys yng Nghymru."

AM ganrifoedd, alltudiwyd yr iaith Gymraeg o’r Llysoedd Barn a bu’n frwydr hir i ennill yr hawl i bobl siarad Cymraeg yn y llys.

HEDDIW, mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym mhob llys yng Nghymru, yn y llys Ynadon, y llys sirol neu lys y Goron.

WEITHIAU, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol, fe ellir gwrando achos yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Os oes angen cyfieithu trafodion y llys oherwydd, dyweder, bod un o bartïon yr achos yn ddi-Gymraeg, bydd y llys yn darparu cyfieithydd am ddim.

HEDDIW, mae’r iaith yn rhan o waith beunyddiol y Gwasanaeth Llys. Mae taflenni a ffurflenni Cymraeg ar gael i bawb ym mhob llys ledled Cymru. Mae enghreifftiau o’r rhain ar gael yn yr arddangosfa hon. Yn ystod ei gyfnod fel Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru a Chaer, bu’r Anrhydeddus Mr Ustus Thomas ar flaen y gâd yn codi ymwybyddiaeth o’r Iaith Gymraeg ym maes Gweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru. O ganlyniad i’w weledigaeth ef, sefydlwyd Pwyllgor Sefydlog yr Iaith Gymraeg ym 1999, corff sy’n gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu’r iaith Gymraeg ymhellach yng Nghylchdaith Cymru a Chaer.

Hywel Dda a’r Gyfraith
Ganwyd Hywel tua diwedd y 9fed ganrif. Etifeddodd hanner teyrnas Seisyllwg pan fu farw ei dad, Cadell. Drwy briodi ag Elen, merch Llywarch Hen, daeth yn frenin y Deheubarth erbyn 904. Pan laddwyd Idwal Foel mewn brwydr yn erbyn y Saeson yn 942, daeth Hywel hefyd yn frenin Gogledd Cymru. Awgryma cyfreithlyfrau’r canol oesoedd fod Hywel wedi canolbwyntio ar ddirwyn hen drefn y cyfreithiau Celtaidd amrywiol i ben yn ystod y cyfnod hwn, sef y cyfreithiau traddodiadol a oedd mewn grym ar y pryd. Dywed y cyfreithlyfrau ei fod wedi galw ar gynrychiolwyr o bob cwr o’r wlad i’r “Tŷ Gwyn ar Daf” yn Nyfed, ac, ar sail sylwadau doeth yr henaduriaid a ddaeth ynghyd, cadwyd rhai o’r hen gyfreithiau, gwellwyd rhai eraill; a diddymwyd y gweddill - a’u disodli gyda chyfreithiau newydd. Yn y cyfarfod hwn y gosodwyd y sylfaen ar gyfer Cyfreithiau Cymru, a fu mewn grym tan Ddeddf Uno 1536.

Statud Rhuddlan 1284
Ar ôl goresgyn Cymru, lluniodd Edward I Statud Rhuddlan (1284). Sefydlodd y Statud drefn ar gyfer y llysoedd a barhaodd mewn grym am 25 mlynedd. Er llunio deddfwriaeth i gosbi’r Cymry, nid oedd honno’n datgan bod yr iaith ei hun yn anghyfreithlon. Yn y llysoedd uwch, lle’r oedd Ynad yn llywyddu, defnyddid cyfieithwyr bob tro y deuai Cymro uniaith gerbron y llys. Yn y llysoedd is, cynhelid yr achosion gan amlaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Cedwid y cofnodion, fodd bynnag, yn Lladin, nes i’r Ffrangeg ei disodli yn ystod y 14eg a’r 15eg ganrif. Yn ei thro, daeth y Saesneg i ddisodli’r Ffrangeg yn ystod y 15fed a’r 16eg ganrif. Er bod rhai o gofnodion y llysoedd a’r gweithredoedd tir yn cael eu cadw yn Gymraeg yn ogystal ag yn Lladin, yn Lladin neu yn Saesneg y lluniwyd y rhan fwyaf o ddogfennau cyfreithiol a lled-gyfreithiol.

Y Ddeddf Uno 1536
Deddfwriaeth a effeithiai ar Gyfreithiau yng Nghymru.

Sefydlwyd y Saesneg yn ffurfiol yn iaith y gyfraith a’r llywodraeth. Cyfeiriai’r rhagarweiniad i Ddeddf 1536 at yr iaith Gymraeg a’i bodolaeth, ond aeth yn ei blaen i nodi mai bwriad y Ddeddf oedd “utterly to extirpate and singular the sinister usage’s and customs differing from those in use in England.”

Saesneg oedd iaith y llysoedd a phob affidafid, iaith gwysiau a iaith dedfrydau; a dim ond os oedd yn medru’r Saesneg y gallai Cymro gael ei benodi i unrhyw swydd.

Adran 17 or Ddeddf Uno
“Also be it enacted of the Authority aforesaid, that all Justices, Commissioners, Sherrifs, Coroners, Escheators, Stewards and their Lieutenants, and all other Officers and Ministers of the Law, shall proclaim and keep the sessions Courts, Hundreds, Leets, Sherrifs Courts, and all other Courts in the English Tongue; and all Oaths of Officers, Juries and Inquests, and all other Affidavits, Verdicts and Wagers of Law, to be given and done in the English Tongue: and also that from henceforth no Person or Persons that use the Welsh Speech or Language shall have or enjoy any manner, office or Fees within this Realm of England, Wales or other the King’s Dominion, upon Pain of forfeiting the same offices or Fees, unless he or they use and exercise the
English or Language.”

Achos Rex v - Athos (tad a Mab) 1723: Cais gan y Twrnai Cyffredinol am ail gynnal treial yn Swydd Henffordd mewn achos yn Sir Benfro lle cafwyd tad a mab yn ddieuog ar gyhuddiad o lofruddio. Gwrthodwyd y cais, ond cafwyd y datganiad hwn gan y llys:

“It was very disappointed to have justice done in Wales by a jury of Welshmen, for they are all to one another, and therefore would rather acquaint a criminal than have the scandal that one of their or relations would be hanged; and think to try a man in Wales for murder was like trying a man in Scotland for high Treason, those being crimes not much regarded in those respective places.”

1789 Llysoedd y Sesiwn Fawr
Defnyddid yr iaith Gymraeg yn y llysoedd barn yn ystod y bymthegfed a’r ddeunawfed ganrif, gan ddefnyddio cyfieithwyr pan oedd angen. Ymddengys bod camddealltwriaeth yn codi’n aml a bod hynny’n arwain at anghyfiawnder yn ystod y cyfnod hwn. Cwynodd Thomas Roberts Llwynrhudol yn “Yr Iaith Gymraeg yn y Llysoedd”, ar ôl bod mewn treial yn y Sesiwn Fawr yng Nghaernarfon fel a ganlyn:

“Nid yw yn anghymwys i mi ddywedyd fy mod yn llwyr gredu (i’r Rheithgor) naill ai gamgymryd, neu ynteu wneud anghyfiawnder mawr i’r un a gollodd; ond nid wyf yn amau nad camgymeriad a wnaeth y dynion, a hynny oherwydd eu hanwybodaeth yn yr iaith Saesneg: eithr mae y Barnwr yn siarad yr iaith Saesneg, a’r Cwnsleriaid hefyd; a’r tystion yn tystiolaethu yn Gymraeg. Sicr yw fod ganddynt gyfieithydd a’i fod ar ei lw i adrodd geiriau y tystion orau medro; eto fel y gŵ yr pawb ag sydd yn deall Cymraeg a Saesneg mai anodd iawn yw cyfieithu fel y bo ystyr y geiriau yn cael eu iawn effaith ar y Rheithwyr yn y naill iaith fel y llall.”

“Golygyddol The Times” 8 Medi 1866
“The Welsh language is the curse of Wales. Its prevalence and the ignorance of English have excluded and even now exclude the Welsh people from the civilisation, the improvement, and the material prosperity of their English neighbours. Their antiquated and semi-barbarous language, in short, shrouds them in darkness. If Wales and the Welsh are ever thoroughly to share in the material prosperity, and in spite of Mr Arnold, we will add, the culture and morality of England, they must forget their isolated language, and learn to speak English and nothing else... For all purposes, Welsh is a dead language.”

1872 - O ganlyniad i ddadl boeth am benodi cyfreithiwr di-Gymraeg yn Farnwr ar Gylchdaith Llys Sirol Canolbarth Cymru, cododd Osborne Morgan C.F. y cwestiwn ar lawr Tŷ’r Cyffredin ar yr 8fed Mawrth 1872 gan ei gwneud hi’n glir nad mater o hawlio Cymru i’r Cymry na cham o unrhyw fath tuag at Ymreolaeth oedd hyn, ond ei fod yn gymhwyster angenrheidiol os am sicrhau cyfiawnder yng Nghymru. Yn ystod y ddadl, cyfeiriodd Osborne Morgan at stori ar y gylchdaith am y Barnwr Parke B, gwr o fri a:
“oedd wedi bod yn esbonio’r gyfraith yn huawdl iawn mewn achos troi-allan pan dorrodd fforman y rheithgor ar ei draws gan weiddi yn Gymraeg - Dywedwch wrth yr hen ‘ddyn ‘na am gadw’i araith yn fyr - ‘dydyn ni ddim yn deall gair mae’n ei ddweud, ac fe setlon ni ddoe pwy oedd i gael yr eiddo dros wydraid o claret yn y Mostyn Arms”.

Dyma’r cynnig a basiwyd gan y tŷ:

“in the opinion of this house, it is desirable, in the interests of the due administration of Justice, that the Judge of a county Court District in which the Welsh language is generally spoken should so far as the limits of selection allow, be able to speak and understand that language.”

1927 - Ym 1927, cafwyd ymgyrch gan Bwyllgor Adrannol y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd, gyda Lleufer Thomas, un o’r aelodau ar flaen y gâd. Galwyd am ddiddymu Cymal Iaith y Ddeddf Uno, am ddarparu ar gyfer tyngu llwon yn Gymraeg a hynny mewn modd a fyddai’n dwyn yr un awdurdod statudol a phe defnyddid y ffurfiau Saesneg ac am gyflogi cyfieithwyr a delid gan y wladwriaeth. Bu rhai’n ystyried ceisio newid yr adroddiad i ddileu’r argymhellion hyn, ond barn Llywydd y Bwrdd Addysg fel y’i mynegwyd i’r Arglwydd Ganghellor oedd:

Any alteration in the Report of this kind would be sure to leak out and the matter would then excite a great deal more attention and controversy than it would if the Report is published as it stands. I hope, therefore, that you will be willing to let matters take their course.

Brig

1933 R -v- Thomas - Apêl gan Sesiwn Chwarter Meirionnydd
Cafwyd yr apelydd yn euog o ddwyn defaid yn Sesiwn Chwarter Meirionydd . Fe’i dedfrydwyd i 12 mis o garchar ond apeliodd ar y sail nad oedd dau o’r rheithwyr wedi deall araith grynhoi’r barnwr na’r areithiau eraill. Gwrthodwyd yr apêl er i’r ddedfryd gael ei lleihau. Dywedodd yr Arglwydd Hewart P.U. wrth wrthod yr apêl, fod pawb a wasanaethai ar reithgor yng Nghymru wrth reswm yn deall Saesneg yn ddigon da i werthfawrogi’r dystiolaeth a gyflwynid gan eu bod wedi tyngu’r llw yn Saesneg. Nid oedd modd gwrthwynebu rheithiwr unwaith yr oedd y ddedfryd wedi’i rhoi.

1936 - Bu gan Clement Davies a Thomas Artemus Jones ran amlwg yn y broses o newid sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y llysoedd. Cyhoeddwyd tystiolaeth y ddau farnwr Cymraeg o fri i’r Comisiwn Brenhinol dan gadeiryddiaeth yr Iarll Peel, a chafodd hynny effaith ar unwaith. Ffurfiwyd Pwyllgor Cenedlaethol, a pharatowyd Deiseb Genedlaethol a oedd yn galw am sicrhau bod y Saesneg a’r Gymraeg yn gydradd yn y llysoedd, am sefydlu Cylchdaith i Gymru gan gynnwys Sir Fynwy, y dylai’r barnwyr a’r swyddogion fod yn ddwyieithog ac y dylid ymestyn awdurdodaeth y Llysoedd Sirol yng Nghymru. Cyflwynwyd y ddeiseb i Gomisiwn Peel gan gynnig tystiolaeth gadarn yn gefn iddi. Er bod Plaid Seneddol Cymru yn dadlau’n groch o blaid y farn blwyfol bod angen i Farnwr ymweld â phob un o’r trefi yr ymwelai â hwy eisoes, yn gyffredinol, roeddent yn bleidiol i’r Ddeiseb. Cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Peel ym mis Ionawr 1936 gan argymell bodolaeth un Cylchdaith yng Nghymru heb raniadau. Yn fwy perthnasol, fodd bynnag, o ran y tymor hir oedd yr argymhellion y dylai swyddogion y llys fod yn ddwyieithog a chan leisio’u gobaith y byddai Barnwr dwyieithog i’r Uchel Lys yn cael ei benodi maes o law. Tra bo’r argymhellion yn cael eu hystyried, cododd problemau eraill, er enghraifft, o ganlyniad i benderfyniad y Cyfrin Gyngor y gallai dyfarniad gael ei ddiddymu pe na bai rheithiwr yn gallu deall iaith y treial. Gofynnwyd i reithwyr nad oeddent yn gallu deall y llw Saesneg sefyll o’r neilltu. Yna, ym mis Hydref 1936, daeth Saunders Lewis a dau gyfaill iddo gerbron Brawdlys Caernarfon am losgi ysgol fomio’r Llu Awyr ar benrhyn Llŷn; cafwyd anghytundeb ymhlith y rheithgor, symudwyd yr achos i’r Old Bailey gan yr Arglwydd Uwch Ustus a’u cael yn euog. Nid oes unrhyw amheuaeth fod yr achos hwn wedi sbarduno pobl i fynnu newid.

Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1938
Yn Neddf Gweinyddu Cyfiawnder 1938 darparwyd ar gyfer penodi Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion a feddai ar gymwysterau cyfreithiol i lywyddu yn y Llys Chwarter gan nodi y dylai’r Arglwydd Ganghellor ystyried, lle bo hynny’n ymarferol, y manteision a ddeilliai o benodi rhywun a fedrai’r iaith Gymraeg.

Deddf Llysoedd Cymru 1942
Drwy’r Ddeddf hon, rhoddwyd yr hawl i unrhyw barti neu dyst ddefnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw lys yng Nghymru petai unigolyn yn teimlo ei f/bod dan anfantais oherwydd mai’r Gymraeg oedd ei h/iaith gyntaf. Gwnaeth yr Athro Ifor Williams, FBA, Athro’r Gymraeg ym Mangor gyfraniad o bwys at ddatblygu terminoleg Gymraeg. Ceir enghraifft o sut yr aeth yr Athro Williams a’i dîm o ieithyddion a chyfreithwyr o fri ati wrth iddynt drafod y term ‘felony’: ystyriwyd y term “Drwg-weithred” ond tybiwyd nad oedd hyn yn ddigonol ar gyfer gair a oedd wedi magu ystyr cyfreithiol manwl ers canrifoedd. Awgrymodd yr Athro Williams y dylid Cymreigio’r gair a chynnig “ffeloni”, Cytunai’r tri Barnwr, sef y Barnwyr Samuel, Clark Williams ac Ernest Evans. Esboniodd yr Athro Williams wrth Adran yr Arglwydd Ganghellor:

“Mae’r ffaith fod y gair Saesneg wedi’i fenthyg o’r Ffrangeg yn cyfiawnhau ei fenthyg i’r Gymraeg hefyd. Bydd y Cymry’n defnyddio’r gair ffelwn ar gyfer y gair Saesneg whitlow ac mae’n ddiddorol nodi’r diffiniad a ganlyn yng Ngeiriadur Poced Rhydychen: “Felon: One who has committed a felony; small abscess, especially near the nail.”

1963 - Cyhoeddodd Cyngor Cymru a Sir Fynwy “Adroddiad ar yr Iaith Gymraeg Heddiw”. Argymhelliad y Cyngor oedd y dylid rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio’r iaith mewn unrhyw lys yng Nghymru. Gofynnwyd i Bwyllgor Hughes Parry egluro statws cyffredinol yr Iaith Gymraeg ac ystyried a ddylid newid y gyfraith. Penderfynwyd y dylid “rhoi datganiad clir a diamwys drwy lunio deddfwriaeth gyffredinol ei chwmpas a’i natur i’r perwyl y dylai pob gweithred a phopeth a ysgrifennir neu a wneir yn Gymraeg yng Nghymru a Sir Fynwy fod yr un mor gyfreithlon a dilys â phe defnyddid y Saesneg.”

Deddf yr Iaith Gymraeg 1967
Ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi Adroddiad Pwyllgor Hughes Parry, cymeradwyodd y Senedd Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967. Drwy’r ddeddfwriaeth hon, rhoddwyd hawl absoliwt a dilyffethair i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y llysoedd. Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dilysrwydd cyfartal, na hawl i godi gwŷs yn Gymraeg nac ychwaith ddyletswydd i gyhoeddi fersiynau Cymraeg o ffurflenni Saesneg. A Saesneg fyddai iaith cofnodion y llys o hyd.

1970 Morris et al - v - Swyddfa’r Goron
Dedfrydwyd criw bychan o brotestwyr a oedd yn fyfyrwyr yn Aberystwyth ac yn aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (cymdeithas sy’n defnyddio dulliau di-drais o dorri’r gyfraith yn fwriadol er mwyn sicrhau gwell statws i’r Gymraeg) i 3 mis o garchar am darfu ar achos llys yn Lloegr.

Meddai’r Arglwydd Denning adeg yr apêl:

“The appellants are no ordinary criminals. There is no violence, dishonesty or vice in them. On the contrary there is much we should applaud. They wish to do all they can to preserve the Welsh Language. Well they may be proud of it ... On high authority it should be equal in Wales with English.” (1081)

Deddf y Rheithwyr 1974
(2) Yn adran 10 Deddf y Rheithwyr 1974 ac adran 25 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1972 - nodir yn benodol fod rhaid i reithwyr ddeall yr iaith Saesneg ond nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y deddfau hynny sy’n dweud bod rhaid iddynt ddeall y Gymraeg mewn achosion lle defnyddir y Gymraeg yng Nghymru. Golygai hyn fod gan dystion ddewis: gallent naill ai anwybyddu eu hawliau dan Ddeddf 1967 a rhoi eu tystiolaeth yn Saesneg neu ddibynnu ar gyfieithydd sy’n gallu bod yn anfoddhaol gan ei bod yn hawdd camddeall gwir arwyddocâd y geiriau.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rhaid i gyrff cyhoeddus penodol baratoi cynllun iaith Gymraeg. Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg mewn achosion yn llysoedd yr ynadon, a’r hawl i’w defnyddio mewn unrhyw lys arall ar yr amod eu bod yn rhoi digon o rybudd i’r llys. Darparwyd ar gyfer defnyddio dogfennau Cymraeg yn y llys, ac mae llw a dyngir yn Gymraeg yr un mor gyfreithlon â llw a dyngir yn Saesneg. Telir ffioedd cyfieithwyr o’r un gronfa a ddefnyddir i dalu costau’r llys.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhoddwyd mwy o Statws a pharch i’r Iaith Gymrag dan y Ddeddf hon. O hyn ymlaen, bydd is-ddeddfwriaeth yn cael ei drafftio yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yr un mor ddilys yn y naill iaith a’r llall. Bydd hyn yn arwain at lawer mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg yn y Llysoedd.