*

"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."

Ymddygiad, cwynion ac apeliadau

Mae’r rhan hon yn ymwneud ag ymddygiad barnwrol a’r ddwy brif ffordd o wneud iawn ar gyfer y rhai hynny sy’n anfodlon â’r ffordd yr ymdriniwyd â’u hachos.

Mae’r prosesau hyn yn diwallu anghenion gwahanol ac mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y systemau a pha bryd y byddai pob un yn briodol

Ymddygiad a chwynion

Mae’r Swyddfa Cwynion Barnwrol yn cefnogi’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus sy’n gyfrifol ar y cyd am y system cwynion a disgyblaeth farnwrol. Darllenwch fwy am y Swyddfa Cwynion Barnwrol

Apelio yn erbyn penderfyniad barnwr

Fel rheol bydd gan y rhai hynny nad ydynt yn ennill eu hachos hawl i apelio. Mae’r apêl yn seiliedig ar y penderfyniad sy’n cael ei wneud yn yr achos a dim ond ar y penderfyniad hwnnw. Darllenwch fwy am apelio yn erbyn penderfyniad barnwr.