*

"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."

Ymddygiad a chwynion

Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol. Mae pob deiliad swydd farnwrol yn cytuno i ddilyn cod ymddygiad llym.

Mae’r Swyddfa Cwynion Barnwrol, a sefydlwyd ar 3 Ebrill 2006, yn ceisio sicrhau yr ymdrinnir â phob mater sy’n ymwneud â disgyblu barnwyr mewn modd cyson, teg ac effeithlon.

Mae’r Swyddfa Cwynion Barnwrol yn un o swyddfeydd cysylltiedig yr Adran Materion Cyfansoddiadol (AMC). Nodir ei statws, ei threfniadau rheoli a’i hamcanion gweithredol mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr AMC, y Swyddfa Farnwrol a’r Swyddfa Cwynion Barnwrol.

Os oes gennych gŵyn ynglŷn â’r Swyddfa Cwynion Barnwrol dylech gysylltu â’r Ombwdsmon Penodiadau ac Ymddygiad Barnwrol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar eu gwefan www.judicialcomplaints.gov.uk.

Cyngor y Barnwyr
Mae Cyngor y Barnwyr yn cyhoeddi deunydd sy’n ymwneud â’u rôl, gan gynnwys canllawiau ar ymddygiad barnwrol y gellir ei lawrlwytho o’r ddolen gyswllt isod:

Canllaw i Ymddygiad Barnwrol – Fersiwn Diwygiedig Mehefin 2006 (PDF 289kb)

Mwy o wybodaeth am Gyngor y Barnwyr

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma