"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."
Apelio yn erbyn penderfyniad barnwr
Fel rheol bydd gan y rhai hynny nad ydynt yn ennill eu hachos hawl i apelio. Mae’r apêl yn seiliedig ar y penderfyniad sy’n cael ei wneud yn yr achos a dim ond ar y penderfyniad hwnnw.
Sut i Apelio
Os ydych yn anfodlon â’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Barnwr yn eich achos, mae’n bosib y gallech apelio yn erbyn y penderfyniad i farnwr mewn llys uwch.
Rhaid cael rhesymau priodol dros wneud apêl ac mae amodau llym o ran yr amser a ganiateir ichi wneud hynny.
Nid yw’n bosib i staff y llys na swyddogion eraill y llywodraeth adolygu dyfarniad a wneir gan y llysoedd. Y rheswm am hyn yw bod y farnwriaeth yn gwbl annibynnol a rhaid iddynt fod yn rhydd i benderfynu ynglŷn â chanlyniad achosion heb ofni ymyrraeth gan y Llywodraeth na’i gweinyddiaeth.
Gallwch herio penderfyniadau ynadon mewn sawl ffordd. Bydd y dull mwyaf priodol yn dibynnu ar y math o achos a’i amgylchiadau penodol. Cyn ichi gyflwyno apêl, fe’ch anogir yn gryf i ofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn â’r weithdrefn, teilyngdod eich apêl a’r gost.
Gwrandewir apeliadau yn erbyn penderfyniad y llys ynadon mewn achosion troseddol gan Lys y Goron. Cyflwynir yr apêl i’r llys ynadon a bydd staff llys yr ynadon yn anfon y papurau i Lys y Goron.
Ar gyfer Llys y Goron a’r llysoedd sirol gallwch apelio mewn perthynas ag achosion sifil a throseddol, ond byddai angen gofyn am ganiatâd gan farnwr cyn y gellir apelio yn erbyn collfarn mewn achos troseddol.
Ymdrinnir â cheisiadau i apelio, ac am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaethpwyd gan Lys y Goron gan Adran Troseddau’r Llys Apêl.
Ymdrinnir ag apeliadau yn erbyn canlyniad gwrandawiad mewn llys sirol neu Uchel Lys, ar y llaw arall, gan Adran Sifil y Llys Apêl gan mwyaf.
Bydd staff llys GLlEM yn barod i gynnig arweiniad ynglŷn â’r gweithdrefnau, ond nid oes ganddynt hawl ac nid ydynt wedi eu hyfforddi ychwaith i roi cyngor cyfreithiol na thrafod a allwch neu a ddylech apelio. Dylid cysylltu â thwrnai er mwyn cael cymorth cyfreithiol. Efallai, ar y llaw arall, y byddai’n well gennych gysylltu â chanolfan Cyngor Ar Bopeth neu asiantaeth gynghori arall, sy’n cynnig cyngor am ddim fel rheol.
