![]() | ![]() |
10 January 2008
1/08
BYDD LLYSOEDD YNADON TRWY GYMRU YN ANNOG SIARADWYR CYMRAEG I DDEFNYDDIO’R GYMRAEG YN Y LLYS.
Lansiwyd Protocol newydd i sicrhau bod defnyddwyr llys yn ymwybodol o’u hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y llys ac i roi arweiniad ar gyfer ynadon a staff llys ar sut orau i gwrdd ag anghenion y rhai hynny sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y llys. Treuliodd y Gweithgor a ddrafftiodd y Protocol flwyddyn yn casglu gwybodaeth o’r Llysoedd Ynadon gyda golwg i ddod o hyd i arfer da a ellir ei rhannu â phawb.
Dywedodd y Barnwr Eleri Rees, Barnwr Cyswllt ar gyfer yr Iaith Gymraeg a Chadeirydd y Gweithgor a ddrafftiodd y protocol: “Rhaid i ni sicrhau bod pob parti a thystion sy’n gysylltiedig â gwrandawiad llys nid yn unig yn ymwybodol o’u hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, ond hefyd yn cael eu hannog yn bositif i wneud hynny. Rydym yn gobeithio bydd y Protocol nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth ond yn helpu ynadon a staff llys i weithredu arfer gorau i gwrdd ag anghenion ieithyddol defnyddwyr llys. Bwriad y Protocol yw adlewyrchu, yn ymarferol, yr egwyddor o gydraddoldeb ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn ein llysoedd, fel y darperir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993”.
Mae’r protocol, ar ôl ymgynghori eang, wedi’i gymeradwyo gan Farnwyr Llywyddol Cymru ac fe’i dosberthir i holl lysoedd ynadon Cymru. Gall y cyhoedd a defnyddwyr llys gael copi o unrhyw Lys Ynadon neu lawr lwytho copi wrth ymweld â gwefannau'r GLlEM a’r Swyddfa Farnwrol. Mae Protocol tebyg yn ymwneud â Llys y Goron a Llysoedd Sirol yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2005 ar gael ar y gwefannau hyn hefyd.
Nodiadau i olygyddion
DIWEDD