*

"Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus yn credu bod y cyhoedd yn haeddu ac yn disgwyl y safonau ymddygiad gorau posibl gan ddeiliaid swyddi barnwrol."

Y Farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr - Rhagarweiniad

Pwrpas y wefan hon yw rhoi golwg ar fywydau gwaith bron i 42,000 o bobl sy’n dal swyddi barnwrol yng Nghymru a Lloegr – barnwyr, aelodau tribiwnlysoedd ac ynadon. Ein nod yw gwella’r safle’n barhaus felly os teimlwch fod rhywbeth ar goll, cofiwch roi gwybod i ni.

Ar gyfer yr adran Gymraeg hon o’r wefan, rydym wedi cyfieithu rhai o’r tudalennau yr ymwelir amlaf â hwy. Os oes unrhyw wybodaeth arall y byddai’n ddefnyddiol i’w chael yn Gymraeg cofiwch roi gwybod i ni.